Amdanom
Sefydlwyd Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru ym mis Medi 2021 wrth i Awdurdodau Lleol Ceredigion a Phowys dod at ei gilydd i weithio ar y cyd ar rai agweddau i gefnogi anghenion ysgolion, dysgwyr ac ymarferwyr Canolbarth Cymru. Mae’r Memorandwm o Ddealltwriaeth yn gosod sylfaen cadarn i waith y Partneriaeth gan amlinellu’n glir y meysydd o gydweithio sy’n cynnwys:
- Datblygiad y Cwricwlwm
- Llwybrau Arweinyddiaeth
- Cefnogaeth i Athrawon sydd newydd gymhwyso ac yn gynnar yn eu gyrfa
- Llwybrau Arweinyddiaeth ar gyfer Cynorthwywyr Addysg
- Tlodi gwledig ac Ecwiti
Ein gweledigaeth a gwerthoedd:
Fel Partneriaid Addysg yng Nghanolbarth Cymru, byddem yn darparu gwasanaeth integredig i’n hysgolion. Bydd ein gwaith o gefnogi ysgolion o’r safon uchaf gan arwain at arloesedd a llymder gan arwain at gwelliant cynaliadwy a pharhaus i’n hysgolion. Byddem yn:
- Gweithredu mewn modd cefnogol a chydweithiol
- Cydweithio mewn modd creadigol, hyblyg a gonest
- Effeithiol ac effeithlon fel partneriaeth
Ein nodau yw:
- I gefnogi arweinwyr a’u datblygiad proffesiynol ac i ddatblygu arweinwyr effeithiol y dyfodol i ddiwallu anghenion Canolbarth Cymru
- Cefnogi athrawon a chynorthwywyr addysg gyda chynnig dysgu proffesiynol cynhwysfawr, pwrpasol, o ansawdd uchel, effeithiol ac hygyrch ac yn cyd fynd gyda meysydd blaenoriaeth lleol
- Cefnogi ysgolion yn eu hadferiad ôl pandemig i i gael effaith gadarnhaol ar les disgyblion a staff
- Cefnogi ysgolion wrth ddatblygu cynnig cwricwlwm sydd â chynnydd a’r pedwar diben yn ganolog iddo
- Cefnogi ysgolion i wella ansawdd eu addysgu a dysgu yn barhaus er mwyn effeithio’n gadarnhaol ar gyfleoedd bywyd disgyblion
- Sicrhau cefnogaeth o’r ansawdd uchaf a thrylwyr yng nghyd ag her ac ymyrraeth pwrpasol i ysgolion
- Datblygu rhwydweithiau cymorth pwrpasol ac effeithiol rhwng ysgolion yng nghyd a hwyluso system hunan-wella
- Darparu cefnogaeth bwrpasol i ysgolion yn unol â meysydd blaenoriaeth datblygu’r ysgol
- Datblygu dealltwriaeth ar y cyd o amddifadedd gwledig ac ecwiti i sicrhau bod pob disgybl yn cael yr un cyfleoedd i lwyddo, waeth beth yw eu heriau cymdeithasol
- Sicrhau bod Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru yn gweithio’n effeithlon ac yn anelu am effeithlonrwydd
- Gweithio’n effeithiol gydag ystod o bartneriaid priodol i ddarparu gwasanaeth dan arweiniad anghenion ein hysgolion, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol, wedi’u halinio’n strategol â ‘Fwrdd Tyfu’r Canolbarth a’r Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol’.
Yn yr adran yma