Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru

Ffurfiwyd Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru (PACC) ym mis Medi 2021 wrth i Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion a Phowys ddod at ei gilydd i gydweithio ar rai agweddau i gefnogi a ddiwallu anghenion ysgolion, dysgwyr ac ymarferwyr ar draws Canolbarth Cymru. Mae’r Memorandwm o Ddealltwriaeth yn cadarnhau gwaith y Bartneriaeth ar meysydd o gyd-weithio:

  1. Datblygiad y Cwricwlwm
  2. Datblygiad Proffesiynol ac Ymholiad
  3. Ecwiti ac amddifadedd gwledig
  4. Llwybrau arweinyddiaeth
  5. Cefnogaeth i athrawon newydd gymhwyso / sefydlu ac athrawon gyrfa cynnar
  6. Llwybrau datblygiad Cynorthwywyr Addysg

Edrych am yrfa newydd?  Dyma’ch cyfle i hyfforddi i fod yn athro / athrawes?

 

Amdanom

Cynnig Dysgu Proffesiynol PACC

Cylchlythyr PACC